Dr Elizabeth Haywood
Cadeirydd
Mae Elizabeth ar hyn o bryd yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Hendre a’r elusen Leonard Cheshire. Mae’n cadeirio Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae’n aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg a Phwyllgor Taliadau Leonard Cheshire. Cyn hynny, roedd hi’n aelod o Fwrdd Scottish Power Energy Networks ac yn aelod annibynnol o Fwrdd Taliadau Swyddfa Archwilio Cymru, a hi oedd Cadeirydd cyntaf WCVA Services Ltd. Mae hi hefyd wedi cadeirio Tasglu Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Dinas-ranbarthau.
Treuliodd ei gyrfa gynnar yn Senedd Ewrop ac Awdurdod Datblygu Cymru, cyn iddi gael ei phenodi’n Gyfarwyddwr CBI Cymru, yna’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Cymdeithas y Cwmnïau Trenau ac yna fe redodd gwmni chwilio am uwch-swyddogion yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae ganddi radd o Brifysgol Caerdydd, PhD a doethuriaeth er anrhydedd gan Abertawe, a hi oedd enillydd cyntaf Gwobr Cymraes y Flwyddyn, ac mae’n Gymrawd Mygedol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Cafodd Elizabeth ei phenodi’n Gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ym mis Mehefin 2020.