Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Croeso 

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r Senedd y tâl a'r adnoddau priodol sydd ar gael iddynt i ymgymryd â'u rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau Aelodau yn ogystal â'u lwfansau eraill fel costau staffio a chostau swyddfa.

Y Diweddaraf 

Penderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd

Datganiad i'r wasg: Cyflogau a chostau busnes Aelodau o’r Senedd wedi’u pennu ar gyfer y Senedd nesaf

Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau sy'n ymwneud â'i Benderfyniad ar gyfer y Seithfed Senedd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y penderfyniadau wnaeth cael ei wneud gan y Bwrdd ar y dudalen yma

 

Aelodau'r Bwrdd

Penodir aelodau’r Bwrdd gan Gomisiwn y Senedd am gyfnod penodol o bum mlynedd. Amlinellir aelodaeth y Bwrdd presennol isod.

Dr. Elizabeth Haywood
Hugh Widdis
Jennifer Long
Yr Arglwydd Nicholas Bourne 
Gareth Llewellyn

Y Penderfyniad

Mae'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau (a elwir yn fwy cyffredin yn "Benderfyniad") yn nodi'r darpariaethau cyflog a chymorth uniongyrchol sydd ar gael i Aelodau'r Senedd i gynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol gymorth a ddarperir drwy'r Penderfyniad yma: Am y Penderfyniad.