Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd

Croeso

Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd yn gorff annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau'r Senedd y tâl a'r adnoddau priodol sydd ar gael iddynt i ymgymryd â'u rôl. Mae hyn yn cynnwys pennu cyflogau Aelodau yn ogystal â'u lwfansau eraill fel costau staffio a chostau swyddfa.

Ategir gwaith y Bwrdd gan gyfres o egwyddorion sydd wedi'u diffinio'n glir:

  • cymorth ariannol a chydnabyddiaeth ariannol i Aelodau gefnogi diben strategol y Senedd a hwyluso gwaith ei Haelodau;
  • rhaid i benderfyniadau fod yn briodol yng nghyd-destun enillion Cymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru;
  • rhaid i'r system o gymorth ariannol i Aelodau fod yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy, yn gynhwysol, ac yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.

Mae rhagor o wybodaeth am waith y Bwrdd ar gael ar y safle hwn.

Manylion Cyswllt

Clerc y Bwrdd Taliadau,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1SN

FFON

E-BOST

X

Aelodau'r Bwrdd

Board members are appointed by the Senedd Commission for a fixed term of five years. Membership of the current Board is outlined below.

Dr. Elizabeth Haywood
Michael Redhouse
Dame Jane Roberts
Hugh Widdis
Sir David Hanson

Y Penderfyniad

Mae'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau (a elwir yn fwy cyffredin yn "Benderfyniad") yn nodi'r darpariaethau cyflog a chymorth uniongyrchol sydd ar gael i Aelodau'r Senedd i gynorthwyo gyda'u dyletswyddau fel Aelod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol gymorth a ddarperir drwy'r Penderfyniad yma: Am y Penderfyniad.